Diweddariad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Annwyl gyfaill

 

Gweler isod y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r hyn sydd i ddod yn nhymor yr hydref.

 

Deintyddiaeth

Lansiwyd ymchwiliad i Ddeintyddiaeth ar 12 Gorffennaf 2022.

 

Mae'r cylch gorchwyl a manylion am sut i ddarparu ymateb ysgrifenedig ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig yw dydd Gwener 16 Medi 2022.

 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid, â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Deintyddol yn nhymor yr hydref.

 

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Byddwn yn cynnal sesiwn gyffredinol i graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i Dirprwy Weinidogion ym mis Medi.

 

Dilynwch ni ar twitter i fod y cyntaf i ddysgu sut y gallwch awgrymu cwestiynau posibl.

 

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth

Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar 7 Ebrill 2022, ac ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 30 Mai 2022.

 

Trafododd y Senedd ein hadroddiad ar 29 Mehefin 2022. Cyn y ddadl, cynhaliwyd digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid drafod ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad a’r cynllun ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros.

 

Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r materion a drafodwyd gennym gyda rhanddeiliaid yn yr hydref.

 

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Fel rhan o'n hymchwiliad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar i drafod pedair thema ymchwiliad allweddol ar 24 Mawrth, 4 Mai, 19 Mai, 8 Mehefin a 6 Gorffennaf.

Hefyd cynhaliwyd sesiwn anffurfiol i randdeiliaid ar 8 Mehefin gyda phobl sydd â phrofiad byw o niwroamrywiaeth.

Cynhaliwyd ymweliad allanol â Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru a Phrosiect Beyond the Blue Barnardo’s Cymru ddydd Iau 23 Mehefin. Diolch i'r ddau sefydliad am ein croesawu a rhannu eich profiadau.

Er mwyn sicrhau bod pobl a’u profiad byw yn parhau i fod wrth wraidd yr ymchwiliad hwn, dros yr haf byddwn yn ymgysylltu â’r gweithlu ac Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, ac yn sefydlu grŵp cynghori ar-lein.

Byddwn yn clywed gan Lywodraeth Cymru yn nhymor yr hydref, cyn cyhoeddi adroddiad yn ddiweddarach eleni.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai

Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar 15 Mehefin 2022.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i’n hargymhellion yn ystod yr haf, a gobeithiwn drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn yn yr hydref.

Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cynhaliwyd gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rôl hon, sef Colin Dennis, ar 29 Mehefin 2022.

Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar 1 Gorffennaf 2022.

Gwaith arall y Pwyllgor

Gallwch ddod o hyd i fanylion am waith y Pwyllgor hyd yma, ynghyd â'i flaenraglen waith, ar ein gwefan. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter: @SeneddIechyd.

Rydych yn cael y neges e-bost hon gan eich bod wedi gwneud cais yn flaenorol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.

Os nad ydych am gael yr hysbysiadau hyn mwyach, rhowch wybod inni drwy anfon neges at: SeneddIechyd@senedd.cymru.

 

 

 

Cofion cynnes

Health and Social Care Committee update

Dear colleague

 

Please see below update on the Health and Social Care Committee’s recent work, and what is coming up in the autumn term.

 

Dentistry

We launched an inquiry into Dentistry on 12 July 2022.

 

The terms of reference and details of how to provide a written response are available on the consultation page.

 

The closing date for written submissions is Friday 16 September 2022.

 

We will be holding oral evidence sessions with stakeholders, the Minister for Health and Social Services and the Chief Dental Officer in the autumn term.

 

Ministerial scrutiny session

We will be holding a general ministerial scrutiny session with the Minister for Health and Social Services and her Deputy Ministers in September.

 

Follow us on twitter to be the first to find out how you can suggest potential questions.

 

Impact of the waiting times backlog on people in Wales who are waiting for diagnosis or treatment

We published our report on 7 April 2022, and the Welsh Government responded on 30 May 2022.

 

The Senedd debated our report on 29 June 2022. Before the debate, we held an informal stakeholder event to discuss the Welsh Government’s response to our report and their plan for transforming and modernising planned care and reducing waiting lists.

 

We will publish a summary of the issues we discussed with stakeholders in the autumn.

 

Mental health inequalities

As part of our inquiry on mental health inequalities, we held oral evidence sessions to explore four key inquiry themes on 24 March, 4 May, 19 May, 8 June and 6 July.

We also held an informal stakeholder session on 8 June with people with lived experience of neurodiversity.

We undertook an external visit to EYST Cymru and Barnardo’s Cymru’s Beyond the Blue project on Thursday 23 June. Thank you to both organisations for accommodating us and sharing your experiences.

To ensure that people and their lived experience remain at the heart of this inquiry, over the summer we will be engaging with the workforce and Welsh Youth Parliament members, and establishing an online advisory group.

We will hear from the Welsh Government in the autumn term, before publishing a report later this year.

Hospital discharge and its impact on patient flow through hospitals

We published our report on 15 June 2022.

The Welsh Government is due to respond to our recommendations during the summer, and we hope to schedule a Plenary debate in the autumn.

Pre-appointment hearing: Chair, Welsh Ambulance Services NHS Trust

We held a pre-appointment hearing with the Welsh Government’s preferred candidate for this role, Colin Dennis, on 29 June 2022.

We published our report on 1 July 2022.

Other Committee activity

You can find details of our work to date, and our upcoming work programme on our website. You can also follow us on Twitter at @seneddhealth.

You are receiving this email as you have previously asked to be kept up to date with our work.

If you no longer wish to receive these notifications, please let us know at SeneddHealth@senedd.wales.

 

 

 

Kind regards